YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL

 

EBRILL 2024

 

 

 

YMWELIADAU MEWNOL

 

12 Ebrill

 

 

 

 

 

22 Ebrill

 

 

 

 

 

30 Ebrill

 

 

 

 

 

Ymweliad â Chymru gan Lysgennad Japan i'r DU

Cyfarfu'r Prif Weinidog â'r Llysgennad yn Sain Ffagan i ddathlu 'Hanami' fel rhan o Brosiect Coed Sakura. Cynhaliwyd cyfarfod dwyochrog byr i drafod blwyddyn Cymru yn Japan 2025, EXPO y Byd a chysylltiadau rhwng Cymru a Japan.

 

Ymweliad gan Sefydliad Diwylliant Wcráin

Cyfarfu'r Cwnsler Cyffredinol â dirprwyaeth o Sefydliad Diwylliant Wcráin a oedd yn ymweld â Chymru gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig. Prif eitem y drafodaeth oedd y Fforwm Symudedd Diwylliannol i'w gynnal yng ngogledd Cymru ar 25-26 Ebrill.

 

Ymweliad â Chymru gan y Brenin Letsie III o Lesotho

Cyfarfu'r Prif Weinidog â’r Brenin Letsie III o Lesotho yn ystod ei ymweliad â Chymru. Ymwelodd y ddirprwyaeth â Chymru i archwilio profiad Cymru o ddatblygu ynni adnewyddadwy, yn ogystal ag ailddatgan cysylltiadau presennol sy'n ymestyn dros 40 mlynedd.

 

 

 

YMWELIADAU ALLANOL

 

 

 

Dim